Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau
bysiau, er mwyn iddi ymlynu wrth amcanion ei pholisi ei hun o
leihau tlodi ac allgáu, a sicrhau nad yw pobl ar draws Cymru
o dan unrhyw anfantais cymdeithasol nac economaidd oherwydd eu
lleoliad.
Gwybodaeth ychwanegol: Nod y ddeiseb hon yw
cynyddu’r arian a gaiff ei roi i ardaloedd anghysbell, a than
anfantais yng Nghymru. Mae nifer o ardaloedd awdurdodau lleol wedi
gorfod lleihau amlder y bysiau a’r dewis o lwybrau bysiau sydd ar gael ers i’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei
gyflwyno. Mae nifer o breswylwyr yn teimlo’n ynysig oherwydd hwn, yn arbennig ar benwythnosau ac ar
ddyddiau gŵyl banc.
Prif ddeisebydd: Daniel Thomas
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013
Nifer y llofnodion: 246